Bydd clwb pêl-droed Dinas Caerdydd yn ymddangos o flaen yr Uchel Lys heddiw i wynebu ail gorchymyn i ddirwyn y clwb i ben oherwydd eu dyledion i’r adran Cyllid a Thollau.

Gobaith y clwb yw y bydd modd taro bargen i gael rhagor o amser, gan fod peth o’r ddyled o £2.7 miliwn eisoes wedi ei dalu.

Yn ogystal â gwerthu asedau a thir, mae Caerdydd wedi codi £3m trwy gynllun dadleuol i werthu tocynnau tymor ymlaen llaw – er mai at brynu chwaraeon yr oedd yr arian hwnnw i fod.

Trafodaethau

Mae’r Adar Glas wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r adran ers derbyn ail orchymyn talu ym mis Rhagfyr.

Pe bai’r clwb yn methu â chytuno gyda’r adran, fe fyddai’n wynebu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr a cholli deg pwynt yn y Bencampwriaeth.

Mae Caerdydd wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda thri grŵp o fuddsoddwyr, ond hyd yma does yr un wedi gwneud unrhyw gynnig cadarn.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gafodd y clwb hawl gan Gyngor Dinas Caerdydd i werthu’r les ar ddarn o dir ger eu stadiwm newydd.

Llun (Gwifren PA)