Cwmni ceir Japaneaidd Honda yw’r diweddara’ i wynebu problemau diogelwch.
Mae wedi galw 437,000 o gerbydau yn ôl ar draws y byd oherwydd diffygion yn y bagiau aer ar ochr y gyrrwr.
Fe ddaeth yn amlwg bod peryg i’r rheiny chwyddo’n rhy gyflym gan rwygo ac anafu neu ladd.
Dyma’r ail dro i’r cynhyrchwyr o Japan alw ceir yn ôl i gywiro’r diffyg – maen nhw wedi galw miliwn yn ôl ers mis Tachwedd 2008.
Mae’r alwad ddiweddaraf gan Honda yn cynnwys 378,000 o geir yn yr Unol Daleithiau, 41,000 yng Nghanada, 17,000 yn Japan ac Awstralia ac mewn rhannau eraill o Asia.
Un wedi ei ladd
Mae Honda’n dweud eu bod yn ymwybodol o 12 digwyddiad sy’n gysylltiedig gyda’r diffygion, gydag un person yn marw ym mis Mai 2009 ac 11 person arall wedi’u hanafu.
Ychwanegodd y cwmni nad oedden nhw’n ymwybodol o unrhyw broblemau ers mis Gorffennaf 2009.
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf wrth i gwmni ceir Toyota hefyd orfod galw mwy nag wyth miliwn o gerbydau’n ôl oherwydd diffygion ar bedalau’r sbardun a’r brêc.
- Heddiw y mae Toyota yn dechrau trin ceir sydd wedi eu galw’n f4l yng ngwledydd Prydain er mwyn trwsio diffygion ar y pedalau – mae disgwyl y bydd 180,000 o geir yn cael eu trin mewn mis.
Llun (Gwifren PA(