Mae undebau yng Ngwlad Groeg wedi mynd ar streic heddiw wrth i’r Llywodraeth rewi cyflogau gweithwyr sifil mewn gwlad sy’n ddwfn mewn dyled.
Trefnodd undeb GSEE streic 24 awr a fydd yn effeithio ar wasanaethau’r Llywodraeth, ac maen nhw wedi trefnu streic arall ar gyfer 24 Chwefror.
Mae’r streiciau yn golygu nad yw awyrennau’n hedfan, bod ysgolion a swyddfeydd treth ar gau, a bod prinder staff mewn ysbytai.
Dyw hi ddim yn amlwg eto a yw’r streic yn ddechrau ar gyfnod hir o anghydfod rhwng yr undebau a’r llywodraeth ynteu’n ffordd i’r undebau ddangos nad ydyn nhw’n hapus gyda’r newidiadau mewn gwlad ble mae streiciau’n gyffredin.
Mae llywodraeth sosialaidd newydd y wlad hefyd wedi torri bonwsau, codi trethi ar yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, ac ychwanegu treth o €0.14 (12c) ar bob litr o betrol di-blwm.
Mae’r wlad dan bwysau gan yr Undeb Ewropeaidd i dorri’n ôl yn sylweddol ar ei gwario ar ôl iddo ddod i’r amlwg y llynedd bod y wlad mewn dyled enfawr.
Mae’r Prif Weinidog George Papandreou, oedd ym Mharis heddiw er mwyn trafod y problemau gydag Arlywydd Ffrainc Nicolas Sarkozy, eisoes wedi wynebu tair wythnos o brotestio gan ffermwyr.
Fe wnaethon nhw gau priffyrdd y wlad gyda’u tractorau am eu bod nhw eisiau cymorthdaliadau uwch.