Dyw difa moch daear ddim yn ffordd effeithiol o reoli’r diciâu mewn gwartheg, meddai tîm o wyddonwyr.
Fe ddywedodd un ohonyn nhw bod y broses yn cynyddu’r salwch ymhlith moch daear ac yn ei ledu mewn ardaloedd cyfagos.
Yn ôl yr ymchwilwyr o Goleg Imperial Llundain a Chymdeithas Sŵolegol Llundain, mae difa’r creaduriaid yn ddrutach na delio gydag effeithiau’r salwch.
“Yn hytrach nag atal y clefyd, mae difa’n lledu’r clefyd,” meddai Dr Rosie Woodruff wrth Radio Wales. “Dyw e ddim yn gweithio. Mae’n gwneud rhywfaint o les yn yr ardal ei hun ond mae’n gallu lledu’r TB mewn ardaloedd cyfagos.”
Cynllun yng Nghymru
Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi cadarnhau y bydd cynllun arbrofol i ddifa moch daear yn digwydd yng ngorllewin Cymru.
Roedd y gwyddonwyr wedi ymchwilio i ganlyniadau ymgyrchoedd difa sydd wedi digwydd yn Lloegr – roedd yna effaith yn y tymor byr, medden nhw, ond ddim yn y tymor hir.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn mynnu bod eu hymgyrch ddifa nhw’n wahanol, gyda phwyslais hefyd ar reoli’r clefyd ymhlith y gwartheg eu hunain.
Fe gafodd yr ardal arbrofol yng ngogledd Sir Benfro ei dewis yn rhannol oherwydd y posibilrwydd o atal moch daear rhag crwydro.
Fe fyddai’r Llywodraeth hefyd yn dadlau bod costau’r clefyd yn uwch nag y mae’r adroddiad newydd yn ei awgrymu – ymhell tros £20 miliwn y flwyddyn yng Nghymru ar hyn o bryd.
‘Gwaethygu’
Mae’r adroddiad yn honni y gallai difa ar raddfa fechan ledu’r clefyd, ond yn dweud y gallai difa ar raddfa fawr weithio – os yw’n cael ei wneud yn gyson.
Byddai’r broses yma’n ddrud, medden nhw, gan honni y byddai defnyddio mesurau i reoli’r clefyd ymysg gwartheg yn gwneud mwy o synnwyr yn ariannol.
Maen nhw hefyd yn cynnig y dylai gwneuthurwyr polisi “ystyried o ddifri” defnyddio brechlyn.
Llun (Gwifren PA)