Mae pryderon newydd am ddyfodol swyddi o fewn cwmni siocledi Cadbury – gan gynnwys 250 sy’n gweithio yn eu ffatri yn y Waun ger Wrecsam.

Ddoe fe gyhoeddodd perchnogion newydd y cwmni, Kraft, eu bod yn cau ffatri arall yn ardal Bryste – er eu bod wedi addo ei hachub a’i chadw’n agored.

Ac mae Kraft wedi cadarnhau eu bod yn cynnal arolwg o’u holl weithfeydd cynhyrchu yn ystod y chwe mis nesa’.

Fe fydd 400 o weithwyr yn colli eu gwaith yn Somerdale sy’n cynhyrchu bariau Crunchie a Curly-wurly. Fe fydd y cynhyrchu’n symud i wlad Pwyl.

‘Poeni dim’

“Dyma’r neges waetha’ bosib i’w roi i’r 6,000 o weithwyr eraill sydd gan Cadbury yn y Deyrnas Unedig,” meddai Jenni Formby ar ran undeb Unite. “Mae’n dweud wrthyn nhw nad ydi Kraft yn poeni dim am y gweithwyr.”

Roedd gweithwyr o’r Waun yn rhan o brotestiadau yn Llundain wrth i Kraft orffen y broses o brynu’r hen gwmni siocledi yn gynharach y mis yma.

Roedd y penderfyniad yn sioc hefyd i’r Ysgrifennydd Busnes, Peter Mandelson: “Doedd Kraft ddim “Fe fydd hyn yn cadanrhau ofnau’r rhai oedd yn poeni y byddai’r prynu yn arwain at golli swyddi,” meddai.

Y pryder yw y bydd dyledion Kraft mor fawr fel bod rhaid iddyn nhw arbed costau – fe ddywedodd y cwmni ddoe bod y broses o gau Somerdale wedi mynd yn rhy bell erbyn hyn iddyn nhw newid y penderfyniad.

Cefndir

Roedd gwaith Somerdale wedi ei sefydlu gan deulu siocledi Fry a unodd gyda Cadbury tua dechrau’r ganrif ddiwetha’.

Ar un adeg, roedd y gwaith yn cyflogi 5,000 o bobol gyda’i orsaf drydan ei hun chysylltiad uniongyrchol gyda’r lein reilffordd o dde Cymru i Gaerdydd.