Mae pennaeth y corff rhyngwladol Unicef wedi rhybuddio bod rhai pobol yn dal i geisio smyglo plant allan o Haiti.
Dywedodd mai diogelwch plant sydd wedi goroesi’r daeargryn oedd prif bryder asiantaeth plant y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Ann Veneman bod Unicef yn dechrau ar raglen er mwyn nodi plant sydd wedi collieu rhieni neu’n methu dod o hyd iddyn nhw.
Maen nhw hefyd yn gweithio gyda grwpiau eraill er mwyn sicrhau bod plant sydd ar eu pennau eu hunain yn cael bwyd, dŵr a chymorth seicolegol, meddai.
Dywedodd fod yna fygythiad ar ôl pob argyfwng dyngarol y byddai plant yn cael eu smyglo o’r wlad ac yn cael eu cam drin yn rhywiol neu eu gorfodi i weithio.
‘Dogfennau angenrheidiol’
Yr wythnos ddiwethaf cafodd 10 o genhadon o America eu cyhuddo o geisio herwgipio 33 o blant i Weriniaeth Dominica.
Dywedodd Ann Veneman bod Unicef yn gwybod am esiamplau eraill “ble mae pryder nad oedd gan blant y dogfennau angenrheidiol pan adawson nhw”.
Er hynny, mae Prif Weinidog Haiti’n credu bod y cyfryngau yn canolbwyntio gormod ar yr Americanwyr a dim digon ar yr argyfwng dyngarol.
Rpedd wedi dweud wrth Ann Veneman ei fod yn gorfod treulio amser maith yn ateb cwestiynau am ddeg Americanwr, ac yntau’n gorfod poeni am 2 filwin o bobol mewn trybini.