Dyw Ifan Morgan Jones ddim yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Lloegr…
Roeddwn i wedi gobeithio anwybyddu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Dyw pethau ddim yn edrych yn dda. Dim ond un tîm drwodd yn y Cwpan Heineken a’r lleill yn gorwedd yn llesg ar waelod tabl Cynghrair Magners. Hyder yn isel ar ôl cael ein rhwygo’n ddarnau gan Awstralia yn yr Hydref. Alun Wyn Bevan yn darogan gwae yn nhudalennau cefn cylchgrawn Golwg.
Mae’n mynd i fod yn ddau fis gwaedlyd.
Dw i ddim eisiau anwybyddu’r gemau oherwydd mod i’n ryw fath o gefnogwr tywydd teg. Ond oherwydd bod colli fel rhoi cyllell yn fy nghalon – a’i droi. Mae angen bod yn dipyn o masochist i ddilyn Cymru, weithiau.
Lle gwell i ddechrau felly nac yn naeargell arteithiol Twickenham? Y man lle mae colli’n brifo waethaf ac ennill yn blasu’n fwyaf melys.
Ac fe fydd hynny’n cael ei amlygu hyd yn oed yn fwy eleni oherwydd bod Twickers, HQ, y cabbage patch, yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed gyda’r gêm yn erbyn Cymru.
Nid yn unig bydd rhaid goddef y ffŵl ‘na yn yr het uchel yn chwifio baner San Siôr. Fe fydd côr o 300 o bobol mewn siâp croes mawr coch yn canu Jerwsalem. Fe fydd band milwrol yn trampian i fyny ac i lawr y cae a pharêd gan gyn chwaraewyr y tîm. Yn ogystal â hynny bydd y tîm cyfan yn gwisgo crysau gwyn disglair yn steil yr oes a fu (er mwyn galw i gof amser pan oedden nhw’n curo Cymru dipyn yn amlach, siŵr o fod).
Mae hyn i gyd yn y rhaglen swyddogol. Fyddwn i ddim yn synnu gweld San Siôr ei hun yn carlamu i’r cae gyda draig goch wedi’i sgiwrio’n symbolaidd ar ei waywffon, chwaith. Mae’r neges yn glir.
Ac os yw’r canlyniad yn gywir, dwi’n siŵr bydd DVD o’r cwbl ar gael erbyn diwedd mis Chwefror – a’u hanner nhw yn HMV Caerdydd am ryw reswm.
Felly, poenus ai peidio, mae’n rhaid maeddu Lloegr eleni, am resymau sy’n mynd y tu hwnt i rygbi. Byrstio balŵn Lloegr o dro i dro yw, bron a bod, ein raison d’etre fel cenedl. Yn wyneb y fath ffwlbri, fydd dim byd arall yn dderbyniol.
(A bydd rhaid iddyn nhw ddisgwyl tan 2099 i ddial ym mharti pen-blwydd Stadiwm y Mileniwm.)