Wedi hir ymaros, mae’r grŵp o Aberystwyth, Race Horses wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf.

Mae Goodbye Falkenburg wedi ei ryddhau ar label Fantastic Plastic yr wythnos hon, er bod y band wedi dechrau ei recordio nôl yng nghanol 2008.

Dywedodd Dylan Hughes o’r grŵp wrth Golwg 360 fod gweld yr albwm yn y siopau’n rhyddhad – “ond ni’n gyffrous i’w weld allan yna i’w brynu mwy na dim”.

“Er bod yr albwm wedi cael ei recordio ers amser, bydd y caneuon yn newydd i’r rhan fwyaf o bobl gan mae dim ond tua eu hanner nhw sydd wedi bod yn ein set byw ni.”

Ymateb da

Mae Goodbye Falkenburg wedi cael ymateb arbennig o dda hyd yn hyn yn ôl Dylan.

“Ni wedi llwyddo i gael adolygiadau mewn nifer o bapurau newydd a chylchgronau ac mae’r ymateb wedi bod yn wych,” meddai.

Mae’r grŵp hefyd wedi cael cyfle i recordio cân a fydd ar CD arbennig ar glawr cylchgrawn Mojo fis Mawrth.

Meddai Dylan, “ni wedi gwneud cover o un o ganeuon Syd Barret, ‘No Man’s Land’, ar gyfer CD aml gyfrannog sy’n cynnwys bandiau fel y Flaming Lips felly mae hynny’n rhywbeth cyffrous arall i ni”.

Claddu Radio Luxembourg

Ffurfiwyd y band yn wreiddiol dan yr enw Radio Luxembourg yn Aberystwyth, ond bu’n rhaid newid yr enw llynedd am resymau cyfreithiol.

Mae’r pedwar aelod, Dylan, Meilyr, Gaff a Gwion erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd.

Rhyddhawyd eu deunydd cyntaf dan yr enw newydd yn yr Hydref ar ffurf y sengl Glo ac Oren. Dilynwyd hynny gan EP Man in my Mind, cyn y Nadolig.

Mae’r grŵp wedi trefnu cyfres o gigs i hyrwyddo Goodbye Falkenburg , ac maen nhw hefyd wedi recordio sesiwn Radio 1 arbennig gyda Huw Stephens a fydd yn cael ei darlledu nos Fercher 27 Ionawr.

Gigs Hyrwyddo Goodbye Falkenburg

• 9 Chw 2010 – Thekla, Bryste
• 10 Chw 2010 – Hare & Hounds, Birmingham
• 11 Chw 2010 – Brudenell Centre, Leeds
• 12 Chw 2010 – ULU, Llundain
• 13 Chw 2010 – Audio, Brighton
• 20 Chw 2010 – Dawns Rhyng-gol, Undeb y Myfyrwyr, Aberystwyth
• 4 Maw 2010 – Eat Your Own Ears, Llundain

Traciau’r albwm

* Man in My Mind
* Cake
* Pony
* Isle of Ewe
* Cacen Mamgu
* Glo ac Oren
* Voyage to St Louiscious
* Discopig
* Man in My Mind (In a Party Near You)
* Scooter
* Intergalactic Rebellion
* Captain Penelope Smith
* Marged Wedi Blino