Yng Nghymru y mae caws llysieuol gorau gwledydd Prydain, yn ôl y cylchgrawn Cook Vegetarian.
Dim ond yn y Sioe Fawr y llynedd y cafodd ‘Caws Aeddfed Cryf’ Calon Wen ei lansio ac fe enillodd ddwy seren aur yng Ngwobrwyon y ‘Great Taste’ yn yr hydref.
Yn ôl beirniad gwobrwyon y cylchgrawn, roedd y caws “…wedi aeddfedu’n ddigonol i gael blas o grisialau calsiwm lactate, gan osgoi bod yn rhy siarp a gadael blas caws cryf a blasus”.
Meddai Richard Tomlinson, cadeirydd ac un o sylfaenwyr cwmni Calon Wen, “Rydym yn falch iawn bod ein Caws Aeddfed Cryf wedi ennill yn y gwobrwyon yma, sy’n cydnabod blas y cynnyrch, yn ei flwyddyn gyntaf”.
“Bydd y wobr gan ‘Cook Vegetarian’ yn helpu mwy a mwy o lysieuwyr i flasu ein caws, yn ogystal â’r bobl sy’n hoff o gaws Cymreig blasus!”
Llawnder llysieuol
A nhwthau hefyd wedi cael cymeradwyaeth Cymdeithas y Llysieuwyr am eu holl gynnyrch, mae’n arwydd bod penderfyniad marchnata bwriadol yn llwyddo.
“Fe benderfynon ni farchnata ar sail y fantais ychwanegol o fod yn llysieuol gan fod llysieuwyr yn chwilio am gynnyrch organig. Drwy gael ein cymeradwyo a thrwy gario’r logo, mae’n gwneud yn rhwydd i bobol weld bod ein cynnyrch yn addas i lysieuwyr”, meddai Richard.
“Mae gyda ni lawer o gwsmeriaid ffyddlon i’n llaeth a’n menyn ac wedi eu hymateb positif a’u cefnogaeth, roedd yn ddilyniant naturiol i ni ddechrau cynhyrchu caws”.
Cwmni Cymreig
Sefydlwyd cwmni cydweithredol Calon Wen gan bedwar ffarmwr yn 2000, gyda’r nod o sefydlu marchnad hir dymor ar gyfer llaeth organig Cymreig.
Erbyn hyn, mae yna 20 o ffermydd teulu yn y grŵp a’u eu llaeth nhw yw’r math organig cyntaf i werthu o fewn archfarchnadoedd o dan ei frand ei hun.
Mae’r cwmni wedi ennill sawl gwobr, yn cynnwys tair gwobr Gwir Flas Cymru a gwobr fasnach foesol gan y Gymdeithas Bridd am eu llaeth organig – y llaethdy cyntaf i ennill y wobr.
Mae caws aeddfed cryf a Cheddar hufennog y cwmni ar gael mewn sawl lle drwy gydol Cymru a Lloegr, gan gynnwys archfarchnadoedd, caffis a gwestai, delis, siopau fferm a siopau lleol.