Mae Heddlu Sir y Fflint yn apelio am wybodaeth ar ôl i ladron dorri i mewn i ystâd ddiwydiannol a dwyn cemegau.

Fe wnaeth lladron dorri mewn i barc diwydiannol Greenfield dros y penwythnos a dwyn 50 litr o ‘r hylif clir Toluene, 50 litr o Ethanol a phedair potel fawr o nwy propane.

Mae’r Heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd fod y cemegau a’r nwy yn fflamadwy. Mae Toluene ac Ethanol yn achosi cosi poenus os yw’n cyffwrdd â’r croen neu’r llygaid.

Dim ond pobl sy’n gwisgo’r offer a’r dillad cywir ddylai drin y cemegau, meddai’r Heddlu.

Mae’r cemegau’n cael eu storio mewn cynhwysyddion plastig glas ac mae’r cynnwys wedi ei nodi’n glir arnynt. Mae’r nwy propane wedi’i storio mewn tun nwy metel coch.

Mae’r heddlu yn rhybuddio na ddylai unrhyw un agor y cynhwysyddion gan fod y cemegau yn rhyddhau anwedd a allai fod yn niweidiol petai’n cael ei anadlu.

Fe ddylai unrhyw un sy’n darganfod yr eitemau hyn, neu sydd â gwybodaeth amdanynt gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru’n syth ar 101, ar 0845 607 1001 neu yn ddienw gyda Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.