Fe allai’r difrod sylweddol i ffyrdd Cymru yn sgil tywydd garw’r flwyddyn newydd gostio miliynau o bunnoedd i’w atgyweirio, yn ôl Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas wrth Golwg 360 fod awdurdodau lleol “yn y broses o asesu graddfa’r difrod a’r gost o’i atgyweirio” ar hyn o bryd.
“Fe fydd y gost ychwanegol hon, ar ben y pwysau ariannol y mae Cynghorau yn ei wynebu’n barod, yn her fawr i Gymru,” meddai.
Dywedodd eu bod nhw’n “gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag effeithiau e.e. newid hinsawdd ar gynllunio a rheoli priffyrdd yn y dyfodol”.
Fel rheol, mae gan awdurdodau lleol gynlluniau yn eu lle yn barod ar gyfer atgyweirio ffyrdd ond dydyn nhw ddim yn rhagweld y difrod ychwanegol sy’n cael ei achosi gan dywydd garw.
Mae tyllau yn y ffyrdd yn gwaethygu ar ôl cyfnodau rhewllyd wrth i’r glaw fynd i mewn i graciau yn y ffyrdd a’u gorfodi ar wahân wrth i’r dŵr rewi.
Mae awdurdodau lleol yn annog unrhyw un sy’n gweld twll yn y ffordd i roi gwybod iddyn nhw.