Mae’r Unol Daleithiau wedi dweud eu bod nhw’n cadw llygad barcud ar y trafodaethau er mwyn achub llywodraeth rhannu grym Gogledd Iwerddon.
Mae’r Prif Weinidog Gordon Brown a’r Taoiseach Brian Cowen wedi bod yn arwain y trafodaethau gyda Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd a Sinn Fein yng Nghastell Hillsborough, Swydd Down.
Penderfynodd y ddau deithio i’r wlad neithiwr ar ôl i’r trafodaethau olaf rhwng arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon Peter Robinson a’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness o Sinn Féin, fethu.
Mae pryderon y gall y gweriniaethwyr ddod a’r llywodraeth i ben a gorfodi etholiad os nad yw Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd yn cytuno i ddatganoli pwerau dros yr heddlu a chyfiawnder o San Steffan ar frys.
Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing bod y trafodaethau wedi bod yn “galed” ond bod y pleidiau wedi trafod cyfres o faterion yn “agored”.
Roedd Gordon Brown a Brian Cowen yn “benderfynol bod y trafodaethau yn symud ymlaen”.
Roedd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton wedi bod mewn cysylltiad gyda nhw, meddai llefarydd ar ei rhan.
Ail ddechreuodd y trafodaethau am 9am heddiw ar ôl dod i ben am 3am. Mae Gordon Brown wedi clirio ei ddyddiadur a chanslo cyfarfod ei Gabinet.