Mae dirwasgiad hiraf a dyfnaf Ynysoedd Prydain wedi dod i ben yn swyddogol, heddiw.
Dim ond 0.1% wnaeth yr economi ehangu rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2009 ond roedd hynny ar ôl 18 mis o grebachu.
Crebachodd yr economi 4.8% y llynedd, a 6% o ddechrau’r dirwasgiad yn 2008, y crebachiad mwyaf ers i’r cofnodion ddechrau yn 1949.
Roedd y dirwasgiad yn llawer gwaeth na’r un yn y 90au cynnar a’r gwaethaf ers i’r Prif Weinidog Margaret Thatcher gael ei hethol 30 mlynedd yn ôl.
Ac roedd yr ehangiad yn yr economi ddiwedd 2009 yn wannach na’r 0.4% yr oedd economegwyr wedi gobeithio amdano.
Mae’r cyhoeddiad swyddogol yn golygu mai Prydain yw’r olaf o wledydd y G7 i adael y dirwasgiad.
Fe allai hefyd fod yn hwb i’r Prif Weinidog Gordon Brown sy’n wynebu etholiad cyffredinol tua 6 Mai.
Pryder
Ond mae yna bryderon o hyd am gryfder yr adferiad, gyda rhai’n dweud y gallai’r wlad ddioddef dirwasgiad arall wrth i’r llywodraeth dorri’n ôl ar wariant cyhoeddus ac wrth i Fanc Lloegr godi’r gyfradd llog.
Rhybuddiodd llefarydd economaidd y Democratiaid Rhyddfrydol bod yr economi yn “fregus” o hyd er gwaetha’r awgrym o dyfiant.
“Mae’r economi yn dal yn ddibynnol ar greu arian yn artiffisial, diffyg ariannol anferth y llywodraeth a banciau sydd ddim yn gweithio’n iawn,” meddai wrth GMTV.
“Mae’r economi wedi cael trawiad ar y galon ac mae o dal yn fregus.”
Roedd economegwyr wedi rhagweld y byddai Prydain yn dechrau tyfu eto yn nhrydydd chwarter 2009 ond fe wnaeth yr economi grebachu 0.2%.