Mae twristiaid oedd yn gobeithio ymweld ag un o saith o ryfeddodau newydd y byd wedi mynd yn sownd ar ôl glaw trwm a thirlithriadau.
Cafodd tua 2,000 o dwristiaid oedd yn gobeithio ymweld â’r ddinas Inca Machu Picchu ym Mheru eu dal gan y tywydd.
Mae’r llywodraeth wedi llwyddo i godi 20 o dwristiaid hen a bregus oddi yno mewn hofrennydd, ond mae’r gweddill yn sownd ym mhentref Machu Picchu Pueblo ger yr adfeilion.
Trên yw’r unig ffordd o deithio yn ôl i wareiddiad ond cafodd y gwasanaeth ei ohirio ar ôl tirlithriadau dydd Sul.
“Does dim doleri ar ôl gan nifer o’r bobol ac maen nhw’n erfyn am ddŵr a bwyd neu le i gysgodi i’w plant,” meddai’r teithiwr Alva Ramirez, 40, dros y teliffon o’r pentref.
“Mae rhai eraill yn gorwedd ar y llawr wrth yr orsaf drenau yn disgwyl.”
Cwynodd y twristiaid bod rhai o’r gwestai wedi codi eu prisiau er mwyn cymryd mantais o’u problemau.
Dywedodd Alva Ramirez, oedd wedi teithio yno o Fecsico, bod y gwestai yn llawn ac wedi dechrau gwrthod llety i’r twristiaid.
Dywedodd llefarydd ar ran Perurail sy’n rhedeg y gwasanaeth trên eu bod nhw’n gweithio’n ddi-ffael er mwyn clirio’r cerrig a’r mwd sy’n gorchuddio’r traciau.