Mae unigolion yn dal i dyrchu gyda’u dwylo ac unrhyw offer sydd ar gael i ddod o hyd i anwyliaid ynghanol y rwbel yn Haiti.
Bron bythefnos ers y daeargryn yno, maen nhw’n ceisio dod o hyd i gyrff perthnasau a ffrindiau er mwyn cael eu claddu.
Eisoes, mae tua 150,000 o gyrff wedi cael eu rhoi mewn beddau torfol a’r ofn yw bod degau o filoedd o gyrff ar ôl eto.
Yn y cyfamser, fe apeliodd Arlywydd Haiti, Rene Preval, am 200,000 o bebyll ar gyfer y bobol ddigartre’ – pum gwaith mwy na’r nifer sydd ar gael ar hyn o bryd.
Yn ôl un o weinidogion y Llywodraeth, fe fydd yr Arlywydd ei hun yn mynd i fyw mewn pabell yng ngerddi ei balas ar ôl i’r adeilad gael ei chwalu’n rhannol.
Cenhedlaeth
Yno, ddoe, roedd yna anhrefn wrth i filwyr geisio rhannu bwyd, gyda chriwiau o ddynion ifanc yn mynd â’r sachau o flaen pawb.
Yng Nghanada, fe ddaeth cynrychiolwyr mwy nag 20 o wledydd at ei gilydd i drafod yr ymdrechion cymorth.
Yn ôl Prif Weinidog Haiti, Jean-Max Bellerive, mae 60% o holl gynnyrch economaidd y wlad wedi cael ei ddinistrio ac fe fydd yn cymryd cenhedlaeth gyfan i ddadwneud y difrod.
• Fe fydd y canwr Robbie Williams yn ail ymuno gyda’i hen fand, Take That, i recordio sengl i godi arian at y trychineb.