Mae heddlu’r Pilipinas wedi dal fan oedd yn cario 79 o gŵn wedi eu lladd i fwytai’r wlad.

Dywedodd y swyddog heddlu Renato Niturada bod 400kg o gig cŵn mewn 10 sach wedi ei ddarganfod dydd Sul mewn fan ar ei ffordd i dalaith ogleddol Pangasinan.

Mae’r gyrrwr wedi ei gyhuddo o dorri rheolau lles anifeiliaid. Mae’n wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar neu ddirwy o $108.

Mae lladd cŵn am eu cig yn anghyfreithlon yn y wlad. Ond mae’r cig yn boblogaidd yng ngogledd y wlad, ble mae bwytai yn ei werthu er gwaethaf protestiadau.

Dywedodd Renato Niturada bod y cig wedi ei gladdu mewn mynwent gyhoeddus.

(Llun: Isageum )