Mae’r Ceidwadwyr yn cwyno am fod Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru’n trefnu cinio i godi arian i’r Blaid Lafur at ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol.

Maen nhw’n dweud bod David Pickering yn defnyddio adnoddau’r Undeb i anfon y gwahoddiadau ac i dderbyn atebion.

Mae hynny, medden nhw, yn cynnwys defnyddio’i gynorthwyydd preifat i helpu gyda’r gwaith a rhoi ei e-bost a’i rif ffôn yn yr Undeb.

Roedd angen i’r Undeb Rygbi egluro beth oedd yn digwydd, meddai Nic Bourne, arweinydd Ceidwadwyr Cymru wrth Radio Wales.

Ymddiheuriadau

Roedd hefyd yn beirniadu Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, sy’n rhan o’r cinio £1,000 y pen.

“Mae’n rhaid eu bod nhw’n gwybod am hyn,” meddai Nick Bourne. “Dw i’n synnu bod Peter Hain a Carwyn Jones wedi cefnogi hyn.”

Fe alwodd am ymddiheuriadau ganddyn nhw a David Pickering ei hun, gan ddweud bod rygbi yn perthyn i bawb, nid i’r Blaid Lafur yn unig.

Yn ôl Radio Wales, roedd yr Undeb Rygbi’n mynnu nad oedd a wnelo nhw ddim â’r cinio.

Llun: David Pickering (Llun o wefan yr Undeb)