Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ynglŷn ag ymgais i lofruddio heddwas yng Ngogledd Iwerddon.
Collodd y Cwnstabl Peadar Heffron, 33, ei goes ar ôl i fom ffrwydro o dan ei gar yn Randalstown, Sir Antrim, yn gynharach yn y mis.
Yn ôl Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, mae dyn 34 oed a dyn 33 oed wedi cael eu cymryd i’r ddalfa yn Belffast.
Ymosodiad
Ymosodwyd ar yr heddwas priod ar 8 Ionawr, a dim ond yn ddiweddar y mae wedi dod ato’i hun yn yr ysbyty.
Y gred oedd mai gweriniaethwyr ymylol sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon oedd yn gyfrifol.
Mae’r Cwnstabl Heffron yn arbenigwr iaith Gwyddeleg gyda Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon – gwasanaeth heddlu newydd y dalaith – ac yn gapten tîm pêl droed Gwyddelig y llu.
Targed amlwg
Fe fyddai’n darged amlwg oherwydd mai newidiadau i’r gwasanaeth heddlu yw un o’r pynciau llosg yn y dalaith ar hyn o bryd, gyda’r brif blaid weriniaethol, Sinn Fein, wedi cytuno i gefnogi’r gwasanaeth newydd.
Fe gafodd y gwasanaeth ei ail wampio’n fwriadol i geisio denu croestoriad gwell o swyddogion o’r cymunedau Pabyddol a Gweriniaethol.
Mae trafodaethau’n cael eu cynnal heddiw i geisio datrys anghydfod rhwng y Gweriniaethwyr a’r Unoliaethwyr am ddatganoli grym tros yr heddlu.
Digwyddodd yr ymosodiad yma ychydig filltiroedd o dref Antrim, ble’r oedd dau filwr Prydeinig wedi eu lladd gan fudiad ymylol y Real IRA y tu allan i farics Massereene mis Mawrth.
Llun: Peadar Heffron