Mae bron dri achos o ymosod rhywiol yn erbyn plant yn digwydd yng Nghymru bob dydd, yn ôl ffigurau sydd wedi eu datgelu gan elusen yr NSPCC.
Fe gafodd y Gymdeithas Atal Creulondeb i Blant afael ar ffigurau gan bob heddlu yng Nghymru a Lloegr ac roedd y rheiny’n dangos bod 959 o ymosodiadau wedi bod yng Nghymru yn ystod y flwyddyn lawn ddiwetha’.
Yn ôl pennaeth y Gymdeithas yng Nghymru, mae’r rheiny’n cynnwys achosion o dreisio yn erbyn plant mor ifanc â blwydd.
Yn awr, mae’r Gymdeithas yn galw am system well i gofnodi ac i ddatgelu manylion er mwyn gallu deall yn well beth yw maint y broblem.
Ar hyn o bryd, mae’r Swyddfa Gartref yn cyhoeddi’r ystadegau am droseddau rhyw yn erbyn plant ac oedolion gyda’i gilydd, er bod yr heddlu’n eu cofnodi ar wahân.
Fe fu rhaid i’r Gymdeithas ddefnyddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael gafael ar y ffigurau.
Trigain y dydd trwy Loegr a Chymru
Trwy Gymru a Lloegr, roedd yna tua 60 trosedd bob dydd, gyda 21,618 o ymosodiadau rhywiol wedi eu cofnodi tros y deuddeng mis rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2009.
“Mae’n ddarlun brawychus,” meddai Phillip Noyes, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygiad y Gymdeithas, gan ddweud bod rhagor o droseddau’n digwydd heb i neb wybod.
“Dim ond nifer yr achosion sydd wedi dod i sylw’r heddlu yw’r rhain. R’yn ni’n credu bod maint y broblem yn llawer gwaeth.”
“Mae rhai o’r plant hyn mor ifanc nad ydyn nhw’n gallu dweud wrth neb beth sy’n digwydd,” dywedodd.
“Dyma’r ail flwyddyn i’r Gymdeithas gasglu’r data yma. R’yn ni’n galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r manylion hyn a’u cysylltu gyda’r nifer sy’n cael eu dyfarnu’n euog.”
Merched – ‘mewn chwe gwaith mwy o beryg’
Mae’r ystadegau’n dangos fod merched chwe gwaith yn fwy tebygol o brofi trosedd rhyw na bechgyn.
O’r holl achosion – gan gynnwys teisio, anwedduster garw a llosgach, roedd un ym mhob saith o’r dioddefwyr dan 10 blwydd oed a 1,000 o dan bump.
Roedd teulu, ffrindiau neu gydnabod bedair gwaith yn fwy tebygol o ymosod ar blant na dieithriaid, yn ôl yr ystadegau.
Ffigurau Cymru
Nifer y troseddau rhywiol yn erbyn plant:
• Dyfed-Powys: 141
• Gwent: 255
• Gogledd Cymru: 258
????????• ??????De Cymru: 305