Mae dau berson a gafodd eu harestio gan Heddlu Gogledd Cymru ar amheuaeth o gipio plentyn bellach wedi cael eu cyhuddo.
Fe fydd dyn 24 oed a dynes 21 oed yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Mansfield yn Swydd Nottingham yn ddiweddarach heddiw.
Mae’r ddau wedi cael eu cyhuddo o un achos o gipio ar ôl i blentyn wyth mis oed gael ei ffeindio mewn eglwys gadeiriol yn Iwerddon.
Roedd wedi ei adael yng nghyntedd yr eglwys yn Carlow, yng nghanol Iwerddon, gyda nodyn yn rhoi ei fanylion.
Fe ddaeth yn amlwg ei fod wedi ei gymryd o gartref ei warcheidwaid cyfreithiol yn Swydd Nottingham.
Y disgwyl yw y bydd y babi, sydd ar hyn o bryd yng ngofal Gwasanaeth Iechyd Iwerddon, yn cael mynd yn ôl gartref yn ystod y dyddiau nesaf.
Llun: Llys Ynadon Mansfield, lle bydd y cwpwl yn ymddangos heddiw