Fe fydd cyfle i setlo pwy yw maswr gorau gwledydd Prydain pan fydd y Scarlets yn cwrdd â Toulon yng Nghwpan Her Amlin.
Fe fydd maswr Cymru, Stephen Jones, yn dod ben ben yn erbyn maswr Lloegr, Johnny Wilkinson, sydd bellach yn chwarae i’r clwb o Ffrainc.
Cic gan Jones a drodd y fantol wrth iddyn nhw guro tîm arall o Ffrainc ddydd Sadwrn. Er nad oedd y fuddugoliaeth o 20-17 yn ddigon i fynd ymhellach yn y Cwpan Heineken, fe enillodd le i’r Scarlets yn y gystadleuaeth ail gyfle.
Wrth sôn am y gêm yn rownd wyth ola’r Amlin, mae gwefan Toulon yn tynnu sylw at Stephen Jones a’r bachwr rhyngwladol Matthew Rees ond mae chwaraewyr ifanc y Scarlets hefyd yn ennill tir.
Fe roddodd yr hyfforddwr, Nigel Davies, glod mawr iddyn nhw ar ôl mynd i Brive ac ennill.
Yn ogystal â Wilkinson, mae cyn-chwaraewr y Gleision a Chymru, Jamie Robinson, yn chwarae i Toulon.
Llun: Stephen Jones, yn barod am Wilkinson