Gêm yn Newcastle fydd gwobr y Gleision am ennill lle yn rownd wyth ola’ Cwpan Her Amlin.
Er nad oedd ganddyn nhw obaith o fynd ymhellach yn y Cwpan Heineken, fe enillodd tîm y brifddinas o 45-20 yn erbyn yr Harlequins yn y gystadleuaeth honno i fynd i’r cwpan ail gyfle.
Roedd y Gleision yn gwybod bod rhaid iddyn nhw ennill o 14 pwynt neu ragor, a chael tri chais, er mwyn mynd trwodd.
Er mai’r Quins a gafodd y cais cynta’ ac er eu bod nhw wedi dod yn ôl yn gry’ ar ddiwedd yr hanner cynta’, fe enillodd y Gleision yn gyfforddus yn y diwedd.
Gareth Thomas
Gareth Thomas, newid hwyr yn nhîm y rhanbarth, a gafodd gais cynta’r Gleision a, gyda Ben Blair, yn cicio popeth, roedden nhw ar y blaen o 28-20 ar yr hanner.
Dau gais gan y canolwr, Jamie Roberts, oedd uchafbwynt yr ail hanner, gyda Blair yn trosi eto a chael gôl gosb.
Roedd yr ail gais yn goron ar y cyfan, gyda symudiad ardderchog yn cael ei ddechrau gan yr wythwr Andy Powell.
Llun: Gareth Thomas, sgoriwr cais cynta’r Gleision