Mae prif arbenigwr trychinebau’r Eidal wedi galw’r ymgais achub yn Haiti yn fethiant “truenus”.
Roedd yn feirniadol o’r Unol Daleithiau gan ddweud bod eu hymateb milwrol yn aneffeithiol a heb fod yn briodol ar gyfer yr argyfwng.
Dywedodd Guido Bertolaso bod angen i un person gymryd rheolaeth o’r ymgais achub a bod angen i wledydd gwahanol ac asiantaethau roi’r gorau i geisio tynnu sylw atyn nhw eu hunain.
“Yn anffodus mae yna angen i ymddangos o flaen y camerâu yn hytrach na chanolbwyntio ar beth sydd o dan y rwbel,” meddai Guido Bertolaso, a fu’n rheoli’r ymdrechion achub ar ôl daeargryn Abruzzo yn yr Eidal yn 2009.
Roedd yn feirniadol o ymdrech achub yr Unol Daleithiau oedd wedi’i redeg gan y fyddin: “Yn anffodus mae yna lot ohonyn nhw, a dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.
“Does dim arweinydd, gyda sgiliau cydlynu a fyddai’n mynd y tu hwnt i unrhyw ddisgyblaeth filwrol. Mae’n dangos eu grym nhw ond does dim cysylltu gyda realiti.”