Mae disgwyl i’r Gweilch gael dirwy am fod ag un chwaraewr yn ormod ar y cae am tua munud yn ystod eu gêm yn erbyn y Leicester Tigers.

Ond does dim disgwyl i’r tîm o Abertawe gael eu gwahardd a cholli’r cyfle i wynebu Biarritz yn rownd wyth ola’r Cwpan Heineken.

Fe wnaeth y tîm o Gaerlŷr gŵyn swyddogol yn erbyn y Gweilch ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod 16 o chwaraewyr ar y cae am gyfnod byr mewn dryswch tros eilyddio.

Yn ôl y Teigrod, roedd y chwaraewr tros ben, Lee Byrne, wedi helpu i atal ymosodiad ganddyn nhw ac fe ddylen nhw fod wedi cael cic gosb.

Honni

Dyw’r Gweilch ddim wedi gwadu na chadarnhau’r honiad ond maen nhwthau’n dweud bod y Teigrod wedi gwneud yr un peth.

Mewn digwyddiad tebyg adeg Cwpan y Byd, fe gafodd Lloegr ddirwy o £10,000.

A chymryd na fydd gwaharddiad, fe fydd y Gweilch yn teithio i Wlad y Basg i chwarae Biarritz gyda’r addewid o gêm gartre’ os byddan nhw’n mynd trwodd i’r rowndiau cynderfynol.

Llun: Un dyn bach dros ben – Lee Byrne