Mae ffilm 3D gan gyfarwyddwr Titanic ar fin curo ei record ei hun am y ffilm sydd wedi gwneud y mwyaf o arian erioed.
Mae Avatar yn Rhif Un yn yr Unol Daleithiau am y chweched penwythnos yn olynol, ac erbyn hyn mae wedi ennill £1.142 biliwn ar draws y byd.
Dim ond £1.24 miliwn arall sydd rhaid iddi ei ennill i dorri’r record byd – sy’n cael ei ddal gan ffilm ddiwethaf James Cameron, Titanic. Fe enillodd honno £1.143 biliwn yn 1997.
“Rydyn ni’n gwylio hanes,” meddai Paul Dergarabedian o Hollywood.com. “Rydyn ni’n gwylio’r holl recordiau mawr yn cael eu torri.
“Mae Avatar yn rheoli ar amser pan nad oes unrhyw ffilmiau mawr eraill i gystadlu yn ei herbyn.”
Mae disgwyl i’r ffilm wneud yn dda pan fydd enwebiadau’r Oscars yn cael eu cyhoeddi ar 2 Chwefror hefyd.