Mae cefnogwyr Caerdydd yn edrych yn ôl 83 o flynyddoedd ar ôl clywed y bydd y ddinas yn chwarae Chelsea ym mhumed rownd Cwpan yr FA.
Y tro diwetha’ i’r ddau dîm gyfarfod yn y Cwpan oedd yn 1927 pan enilloedd Caerdydd tros ddwy gêm a mynd yn eu blaenau i ennill y gystadleuaeth.
Ond, erbyn eleni, Chelsea yw un o’r ychydig glybiau mawr sydd ar ôl yn y Cwpan a’r mwya’ llwyddiannus o bell, yn ffefrynnau i ennill yr Uwch Gynghrair.
‘Edrych ymlaen’
Ond fe fydd chwaraewyr Caerdydd yn edrych ymlaen at deithio i Stamford Bridge yn Llundain, meddai Rheolwr Caerdydd, Dave Jones.
“Mi fydd yn brofiad da ac mi fydda’ i’n siomedig os na fydd fy chwaraewyr yn dangos beth allan nhw ei wneud yno.
“Fyddwn ni ddim yn mynd yno’n ofnus. Os gallwn ni gael canlyniad, mi fydd yn ddiwrnod mawr arall yn hanes y clwb.”
Y tro diwetha’ …
Yn 1927, yr unig dro i Gaerdydd ennill y Cwpan, fe aethon nhw i Stamford Bridge a chael gêm gyfartal o flaen mwy na 70,000 o bobol.
Roedd yna bron 48,000 ym Mharc Ninian ar gyfer yr ail chwarae pan enillodd Caerdydd o 3-2.
Fe fydd disgwyl i griw da o gefnogwyr fynd o Gaerdydd i Lundain – yn ôl Dave Jones, mae’r ffans yn haeddu’ trip ar ôl iddyn nhw roi hwb i’r tîm i ddod yn ôl a churo Leicester City o 4-2 ddydd Sadwrn.
Llun: Stamford Bridge