Mae Barack Obama wedi dweud y bydd yn canolbwyntio ar swyddi a’r economi wrth i’w boblogrwydd yn yr Unol Daleithiau ddechrau pylu.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi bod yn ail ystyried ei flaenoriaethau yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl y Gweriniaethwr Scott Brown yn isetholiad Seneddol Massachusetts.

Er bod yr Unol Daleithiau yn swyddogol allan o’r dirwasgiad, mae diweithdra yn uchel a’r adferiad economaidd yn llusgo’i draed.

Mae’r rhan fwyaf o Americanwyr hefyd wedi troi yn erbyn diwygiad iechyd Barack Obama, sydd yn y fantol yn dilyn y golled yn Massachusetts.

Y neges

“Mae’r arlywydd yn gwybod beth yw’r neges,” meddai prif ymgynghorydd Barack Obama, David Axelrod. “Y neges yw bod angen cynyddu’r economi mewn ffordd sy’n gwobrwyo’r bobol sy’n gweithio’n galed.”

Dywedodd y byddai Americanwyr yn dysgu mwy am gynlluniau’r Tŷ Gwyn ddydd Mercher pan fydd yr Arlywydd yn traddodi ei brif araith flynyddol gyntaf. Mae yna ddisgwyl y bydd yn cyflwyno ail becyn gwerth $175 biliwn (£109 biliwn) i hybu’r economi.

Dywedodd llefarydd y Tŷ Gwyn, Robert Gibbs, eu bod nhw’n trafod i weld beth sy’n bosib o ran newid y system gofal iechyd.