Mae gwarchodwyr yn ceisio achub bywyd gwyllt heddiw ar ôl y ddamwian olew fwyaf yn nhalaith Texas ers 1994.

Fe gafodd porthladd mawr ei gau wedi i’r olew ollwng i’r dŵr.

Dywedodd gwylwyr y glannau’r Unol Daleithiau bod 462,000 o alwyni – neu 11,000 casgen – o olew wedi eu colli i mewn i’r dŵr ddydd Sadwrn pan darodd dwy long yn erbyn ei gilydd ger dinas Port Arthur.

Roedd tancer o Falaysia ar ei ffordd i burfa olew Exxon Mobil yn Beaumont pan drawodd yn erbyn llong dynnu.

Dywedodd llefarydd ar ran talaith Texas y byddai’n rhaid i gwmni AET Tankers dalu am y gwaith glanhau – nhw yw perchnogion y tancer oedd yn y ddamwain.

Does dim ymateb eto gan Exxon Mobil.

Mae rhwystrau plastig yn cael eu defnyddio a chychod wrthi’n ceisio gwarchod hafan bywyd gwyllt gerllaw. Roedd honno wedi colli ei gatiau amddiffynnol mewn corwynt blwydd a hanner yn ôl.