Fe fydd dau gyfarfod tyngedfennol heddiw i geisio datrys yr argyfwng sy’n bygwth dyfodol y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Os na fydd y rheiny’n llwyddo, fe allai’r Llywodraeth Bartneriaeth chwalu ym Melffast ac fe fyddai datganoli ei hun mewn peryg.
Y disgwyl yw y bydd arweinwyr dwy blaid y Bartneriaeth – Martin McGuinness o Sinn Fein a Peter Robinson o’r DUP – yn cyfarfod yn Senedd Stormont ar ôl i Sinn Fein fynnu trafodaeth frys.
Ar yr un pryd fe fydd prif weinidogion Iwerddon a Phrydain yn cyfarfod yn Llundain, gyda Brian Cowens a Gordon Brown yn dweud eu bod yn barod ymyrryd os oes raid.
Y ddadl
Fe ddaw’r cyfarfodydd ar ôl i’r Gweriniaethwyr Sinn Fein fygwth gadael y Llywodraeth os na fydd addewidion yn cael eu cadw.
Prif asgwrn y gynnen yw datganoli grymoedd yr heddlu a chyfiawnder – mae’r rheiny’n rhan o amodau’r cytundebau heddwch yn y dalaith.
Maen nhw’n cyhuddo’r Unoliaethwyr Protestannaidd, y DUP, o geisio tanseilio’r cytundebau trwy fynnu newid yn y drefn o reoli gorymdeithiau’r Urdd Oren sy’n dathlu buddugoliaeth tros y Catholigion.
Y bygythiad
Os nad yw’r amodau’n cael eu cadw, does dim pwynt parhau, meddai Llywydd Sinn Fein, Gair Adam, ar ôl cyfarfod o bwyllgor gwaith y blaid yn Nulyn ddydd Sadwrn.
Ar y llaw arall, mae’r DUP yn cyhuddo Sinn Fein o greu môr a mynydd o’r broblem, gan ddweud eu bod nhw’n “aros wrth y bwrdd” yn barod i drafod.
Fe fydd Gordon Frown a Brian Cowens yn awyddus i weld y ddwy blaid yn datrys y broblem ond fe ddywedodd y Taswch wrth deledu Iwerddon y byddai’n rhaid iddyn nhwthau ymyrryd os oedd rhaid – gan mai nhw oedd yn gwarantu’r cytundebau heddwch.
Fe ddaeth yn amlwg hefyd bod y pleidiau Unoliaethol yn paratoi at chwalfa a’r peryg o etholiad newydd – fe fu’r ddwy brif blaid, y DUP a’r UUP, yn trafod uno er mwyn rhwystro Sinn Fein rhag dod yn blaid fwya’r dalaith.
Llun: Stormont – cyfarfod rhwng y pleidiau heddiw