Mae pwyllgor yn y Cynulliad wedi galw am newidiadau a gwelliannau anferth yn system reilffyrdd Cymru.
Fe fyddai hynny’n cynnwys systemau trenau ysgafn yn y prif ddinasoedd, trydaneiddio’r prif leiniau, gwella stoc a gorsafoedd ac ystyried cau rhai o’r bylchau yn y gwasanaeth, er enghraifft rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ac mewn rhannau o’r Gogledd.
Mae’r Pwyllgor Menter a Dysgu hefyd eisiau i Gymru gael yr un hawliau i greu deddfau ym maes rheilffyrdd ag sydd gan y Senedd yn yr Alban, ynghyd â’r arian dyledus. Fe fyddai hynny’n cryfhau gallu Llywodraeth y Cynulliad i gynllunio gwasanaethau.
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Gareth Jones, roedd yna dystiolaeth y byddai mwy o ddefnydd o reilffyrdd yn y dyfodol, o ran teithwyr a nwyddau.
“Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n paratoi ar gyfer y galw ychwanegol yna a bod Cymru’n manteisio ar gysylltiadau rheilffyrdd cyflym gyda gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop,” meddai.
Mae yna 21 o argymhellion i gyd, gan gynnwys:
• Systemau trenau ysgafn yng Nghaerdydd, Abertawe a Chaerdydd.
• Trydaneiddio’r prif linellau – ar draws de Cymru, ar draws gogledd Cymru, yn ardal Caerdydd a’r Cymoedd.
• Gwell cysylltiadau rhwng y De a’r Gogledd, gyda rhagor o wasanaethau a threnau cyflymach.
• Cerbydau newydd, yn arbennig ar lein y Cymoedd.
• Cael gwasanaethau cynt o Gaerdydd i Lundain, heb aros yn Swindon, Didcot a Reading.
• Dylai Llywodraeth y Cynulliad a chwmni Network Rail ystyried ailagor gorsafoedd ac agor rhai newydd.
• Fe ddylen nhw hefyd ystyried cau bylchau e.e. rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, o Gaernarfon i Fangor ac i lawr o lein y Gogledd trwy Ruthun a Chorwen at lein Calon Cymru.
• Gwella gorsafoedd ac adnoddau eraill, yn arbennig i bobol gydag anableddau.
• Paratoi ar gyfer symud nwyddau o’r ffyrdd i’r rheilffyrdd.
• Sicrhau cydweithio fel bod modd defnyddio ‘cardiau clyfar’ i fynd rhwng trenau a bysys mewn gwahanol ardaloedd.