Mae llywodraeth Prydain yn rhybuddio bod cynhadledd newid hinsawdd Copenhagen ar fin methu, a hynny wedi i ymweliad yr Arlywydd Obama ac arweinydd China, Wen Jiabao, fethu a chwrdd a’r disgwyliadau.
Roedd siom nad oedd araith hir-ddisgwyliedig Barack Obama wedi cynnig unrhyw addewidion newydd. Ond roedd awgrym y byddai Obama’n cyflwyno ambell gyfaddawd nes ymlaen.
A mynegwyd siom hefyd ynglyn ag ymdrechion cynrychiolwyr China i godi gwrthwynebiadau cyson. Roedd Prif Weinidog China, Wen Jiabao, yn anfodlon a’r broses ‘gwirio’ addewidion y gwledydd unigol i gyflwyno addasiadau yn sgil newid hinsawdd.
Cafodd y Chineaid rybudd gan yr Arlywydd Obama i leddfu ei gwrthwynebiadau.
Mae arweinwyr y 25 gwlad sydd yn o gynhadledd yn cynnal trafodaethau ar eu pen eu hunain, heb ymgynghorwyr, yn sgil yr hyn a alwyd yn ‘fethiannau’ dros nos a bore ’ma.
Yn ôl dogfen gan y Cenhedloedd Unedig, fydd yr hyn sydd ar y bwrdd ddim yn cyrraedd y nod o gyfyngu cynhesu byd-eang i 2 radd Celsius – mae’n proffwydo cynnydd o 3 gradd.
Mae cyfaddawdu gan China a’r Unol Daleithiau yn cael ei ystyried yn allweddol er mwyn cael cytundeb o sylwedd, gan mai nhw yw’r ddwy wlad sy’n llygru fwyaf.
Pryder
Pryder ymgyrchwyr amgylcheddol yw na fydd y cytundeb yn fwy na sioe arwynebol ac mae gwledydd llai a thlotach yn ofni bod y gwledydd mawr yn ceisio cornelu’r drafodaeth.
Bellach, does neb yn disgwyl cytundeb gyda thargedau cyfreithiol, dim ond cytundeb gwleidyddol ynglŷn â’r egwyddorion. Ac mae amheuaeth na fydd hynny’n ddigon beth bynnag.
Mae’r ddogfen sydd wedi dod i’r amlwg gan y Cenhedloedd Unedig yn awgrymu fod y cytundeb tebygol am fethu â chyrraedd prif amcan yr Uwch Gynhadledd.
O edrych ar yr addewidion sydd wedi eu gwneud hyd yn hyn, mae’r ddogfen yn awgrymu y bydd yn methu’r targed o gadw cynhesu at 2 radd Celsius – dyna’r lefel y mae’r rhan fwya’ yn credu fydd yn atal catastroffi.
Cynhadledd Mecsico
Mae Prif Weinidog Prydain Gordon Brown wedi awgrymu y gallai’r gynhadledd nesaf ym Mecsico ddigwydd yn gynt, er mwyn cyflymu’r broses o sefydlu cytundeb sy’n rhwymo gwledydd yn gyfreithiol.
Llun: Barack Obama – disgwyl llawer ganddo