Mae un o gyn-weinidogion y Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau iddi adeg yr Etholiad Cyffredinol nesa’.

Mae Kim Howells, Aelod Seneddol Pontypridd, wedi dal cyfres o swyddi ers i Lafur ddod i rym ac ef, erbyn hyn yw Cadeirydd y Pwyllgor Diogelwch a Gwybodaeth Gudd yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae wedi bod yn Aelod Seneddol ers ennill isetholiad yn 1989 wedi marwolaeth Brynmor John ond roedd yn enwog cyn hynny yn swyddog ymchwil gydag Undeb y Glowyr ac yn un o’u prif lefarwyr adeg y streic fawr yn 1984-5.

Llwyth o swyddi

Ers etholiad 1997, fe fu’n weinidog yn yr adrannau Addysg; Diwydiant a Masnach; Diwyllliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Trafnidiaeth a’r Swyddfa Dramor, pan oedd yn gyfrifol am Afghanistan, ymhlith llefydd eraill.

Er hynny, ac er bod amryw’n disgwyl llawer ganddo, wnaeth e ddim cadw yr un swydd yn hir na chodi’n uwch na lefel is-weinidog.

Er hynny, gyda’i siarad rhugl a’i dro ymadrodd, fe gafodd sylw sawl tro. Pan oedd yn weinidog diwylliant fe alwodd waith gwobr gelf Turner yn “bullshit” ac, yn ystod yr wythnosau diwetha’, fe feirniadodd y rhyfel yn Afghanistan.

Cefndir dadleuol

Fe dynnodd rhai o’r papurau newydd sylw at ei gefndir pan gafodd ei ddewis yn Gadeirydd y Pwyllgor Diogelwch, gyda chyfrifoldeb am arolygu gwaith y gwasanaethau cudd, fel MI5 ac MI6.

Pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Celf Hornsey yn Llundain yn 1968, roedd yn un o arweinwyr protest gan fyfyrwyr.

Roedden nhw wedi meddiannu’r coleg am chwe wythnos – bryd hynny fe fyddai MI5 wedi bod yn ei wylio yntau.

Pan oedd yn swyddog ymchwil gyda’r glowyr, fe gyfaddefodd ei fod wedi distrywio dogfennau, ar ôl i yrrwr tacsi gael ei ladd gan streicwyr.

Effaith ar wleidyddiaeth Cymru

Mae yna arwyddocâd o ran gwleidyddiaeth Cymru hefyd – er bod gan Kim Howells fwyafrif o 13,191 yn 2005, fe fydd Llafur dan bwysau ym Mhontypridd.

Dyw Kim Howells ddim wedi rhoi llawer o rybudd i’r blaid, gyda phosibilrwydd o etholiad mor gynnar â mis Mawrth nesa’. Mae AC Pontypridd, Jane Davidson, hefyd yn bwriadu rhoi’r gorau iddi yn 2011.