Mae eira wedi achosi trafferthion tros rannau o dde-ddwyrain Lloegr gydag ychydig o rybuddion ar ucheldir de Cymru hefyd.
Yr ardaloedd o amgylch Llundain, East Anglia, Surrey a Kent sydd wedi diodde’ waetha’ gyda thrwch hefyd cyn uched â Swydd Efrog.
Fe fu trafferthion ar ffyrdd fel yr M25 a’r M1. Mae adroddiadau am rai gyrwyr yn sownd ond, hyd yn hyn, dim damweiniau difrifol.
Y broblem fwya’, yn ôl yr awdurdodau, yw lorïau mawr yn jacneiffio ac yn atal y traffig.
Fe gafodd rhai teithiau eu canslo ym meysydd awyr Gatwick a Luton ac mae rhybuddion am ragor o eiria yn ystod y ddeuddydd nesa’.
Yng Nghymru, fe gafwyd rhywfaint o eira ar y Bannau ac yn ardal Castell Nedd, gyda rhybudd i gymryd gofal ar ffyrdd yn ardal Cwmafan.