Mae un o brif weithfeydd cynhyrchu gogledd Cymru’n cau heddiw ar ôl bron 60 mlynedd o weithio yn ardal Wrecsam.
Fe fydd tua 200 o weithwyr yn colli’u swyddi pan fydd Air Products Acrefair yn cau ei ddrysau am 1.00 y prynhawn. Roedd criw cynharach wedi gadael ddechrau’r hydref.
Mae’r gwaith yn un o ddau o fewn y cwmni Americanaidd sy’n cynhyrchu nwyon diwydiannol ac ym mis Ebrill eleni y cyhoeddwyd eu bod nhw’n bwriadu canolbwyntio ar eu ffatri yn China.
Yn ôl y Rheolwr Cyffredinol yn Acrefair, Laurence O’Donnell, roedd y galw am y cynnyrch wedi symud i Asia a methu a wnaeth cynnig ganddo ef a’r rheolwyr lleol i wella effeithiolrwydd a defnyddio staff mewn ffyrdd gwahanol.
Cyfarwydd
Mae’r gwaith, sydd ar sawl safle yn Acrefair, wedi bod yn rhan cyfarwydd o’r golygfeydd yn nyffryn Dyfrdwy ers 1950, o fewn tafliad carreg i draphont enwog Pontcysyllte.
Mae’r gweithwyr wedi cael eu hail-hyfforddi ac wedi derbyn pecynnau diswyddo da … maen nhw hefyd wedi cyhoeddi cân arbennig – Here to Stay – i godi arian at elusen. Mae honno ar alaw Dafydd Iwan, Yma o Hyd.
Llun: Nodwedd enwoca’ ardal Acrefair – Pontcysyllte