Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cadarnhau fod mam y Prif Weinidog Carwyn Jones, wedi marw.
Yn dilyn marwolaeth ei fam Janice, mae’r Prif Weinidog yn dychwelyd o Uwch Gynhadledd Copenhagen ddiwrnod yn gynnar i fod efo’i deulu.
Mae cadarnhad fod cyfarfod Cabinet oedd fod i ddigwydd yfory wedi ei ohirio.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, ei fod o’n teimlo “tristwch mawr” wrth glywed am ei marwolaeth.
“Er ei bod hi wedi bod yn sâl am gryn amser,” meddai, “byddai ei marwolaeth wedi bod yn sioc ofnadwy i’r Prif Weinidog a’i deulu.”
Bydd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, yn parhau i gynrychioli Cymru yn y gynhadledd newid hinsawdd yn Copenhagen.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, hefyd wedi cynnig ei chydymdeimlad.
“O brofiad personol” meddai, “dwi’n gwybod fod colli rhiant yn anodd, ond dwi’n gobeithio fod Carwyn yn cael cydymdeimlad o’r ffaith ei bod hi yn ymwybodol o’i lwyddiannau wrth ddod yn arweinydd ei blaid a Chymru.”