Mae gobaith am Ddolig gwyn yn ôl dau o’r cwmnïau betio mawr.

Mae Ladbrokes a William Hill wedi lleihau’r ods, ar ôl i’r nifer fwyaf o bobol ers 10 mlynedd fentro y bydd hi’n bwrw eira Ddydd Nadolig.

Yn ôl rhagolygon y tywydd, mae’n mynd i oeri eto ar draws gwledydd Prydain, ac mae gwynt oer o’r dwyrain yn cynyddu’r tebygolrwydd o rew ac eira.


Nifer fawr yn betio

Aberdeen yw’r lle mwyaf tebygol o gael eira yn ôl cwmni William Hill, gan gynnig ods o 11/4. Mae Ladbrokes yn cynnig yr un ods ar gyfer Llundain.

Yn ôl papur newydd y Guardian, mae mwy na 13,000 o bobol wedi betio am Nadolig gwyn. Gallai un person, yn ôl y papur, ennill £14,700 os gwneith hi fwrw eira ar draws y DU dros y Nadolig.

Dywedodd y papur hefyd fod llefarydd ar ran Ladbrokes wedi dweud y bydd yn rhaid cael cofnod swyddogol o eira yn ystod y 24 awr dros y Nadolig cyn bydd yna unrhyw enillion yn cael eu talu.