Mae trafodaethau rhwng Leon Britton ac Abertawe dros gytundeb newydd wedi cael eu gohirio tan yr ha’ – a hynny er bod y chwaraewr canol cae wedi cael cynnig y cytundeb druta’ erioed yn hanes yr Elyrch.

Fe ddatgelodd rheolwr y clwb, Paulo Sousa, yr wythnos ddiwetha’ nad oedd Britton wedi arwyddo cytundeb.

Fe allai adael y clwb am ddim pan fydd ei gytundeb presennol yn dod i ben yn yr ha’, ac fe fydd hawl ganddo drafod gyda chlybiau eraill ym mis Ionawr.

Clwb yn ofni colli canolwr

Er bod Leon Britton yn siomedig bod y manylion ynglŷn â’r trafodaethau wedi dod yn gyhoeddus, mae’n dweud ei fod wedi ymroi i helpu’r Elyrch i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Mae Abertawe, hefyd, yn awyddus i gadw Britton, ond mae Cadeirydd y clwb, Huw Jenkins, wedi cyfadde’ y gallai’r chwaraewr adael pe bai clwb arall yn gwneud cynnig mawr ym mis Ionawr.