Mae hyfforddwr y Dreigiau yn siomedig ar ôl i’r rhanbarth golli o 49-13 yn erbyn Biarritz yng Nghwpan Heineken ddoe.

“Roedden ni’n wynebu tîm o safon uchel, ond fe wnaethon ni lawer o gamgymeriadau ac fe wnaeth Biarritz ein cosbi ni,” meddai Paul Turner. “Does dim amheuaeth mai nhw oedd y tîm gorau. Mae’n siomedig iawn.”

Dywedodd bod y Dreigiau wedi caniatáu i’r Ffrancwyr ennill momentwm yn gynnar yn y gêm.

“Roedden ni wedi siarad cyn y gêm am bwysigrwydd peidio â gadael i Biarritz gael momentwm, ond dyna’n union beth ddigwyddodd. Allwch chi ddim rhoi naw cic gosb bant yn yr 20 munud cynta’.”

Fe sgoriodd Biarritz chwe chais, gyda’r mewnwr Dimitri Yachvili yn cyfrannu 22 pwynt i sgôr y tîm cartre’ ar Parc des Sports Aguilera.

Gobeithio gwell

Fe fydd y Dreigiau yn gobeithio am berfformiad gwell pan fyddan nhw’n wynebu Biarritz yn Rodney Parade nos Wener nesa’.

Mae’r Dreigiau yn ail yn eu grŵp gyda 5 pwynt, ond mae Glasgow, sy’n drydydd yn y grŵp, gyda’r un nifer o bwyntiau.