Mae hyfforddwr tîm rygbi saith bob ochr Cymru, Paul John, wedi dweud bod gan Gymru’r potensial i fynd ymhellach yng nghystadlaethau’r gyfres.

Fe lwyddodd Cymru i ennill gwobr eilradd y Bowlen am yr ail wythnos yn olynol, ar ôl methu ag ennill eu lle yn rownd wyth olaf y brif gystadleuaeth.

Maeddodd Cymru Rwsia o 14-5 yn y ffeinal ond mae Paul John yn credu bod gan y tîm y gallu i fod yn gystadleuol yn erbyn prif dimau’r gyfres.

“Mae’n rhaid i ni fod yn realistig, mae yna wyth chwaraewr newydd yn y garfan sydd heb chwarae rygbi saith bob ochr o’r blaen. Ond mae’r tîm wedi tyfu llawer ar y cae ac oddi arno,” meddai’r hyfforddwr.

“Maen nhw wedi ennill dwy Bowlen hyd yma, ac mae hynny’n anodd. Mae’r tîm wedi dangos bod ganddyn nhw’r potensial i gyrraedd rownd cyn derfynol y brif gystadleuaeth.”

‘Gwell na’r disgwyl’

Dywedodd Paul John bod y tîm wedi gwneud yn well yn y gyfres na’r disgwyl.

“Maen nhw wedi gwthio pob tîm arall yn agos iawn. Rydym ni wedi chwarae pob un o’r timau mawr, ac eithrio Kenya a Lloegr dros y pythefnos diwethaf,” meddai.

“Mae gyda ni fwy o bwyntiau yn y gyfres o’i gymharu â llynedd, felly gall y tîm gymryd hyder yn yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni.”

Fe fydd cymal nesaf y gyfres yn cymryd lle yn Seland Newydd ar y 5ed a 6ed o Chwefror cyn symud ymlaen i Las Vegas ar gyfer cymal yr Unol Daleithiau’r wythnos ganlynol.