Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn marwolaeth dau ddyn arall a gafodd eu taro gan drên.

Cred yr heddlu yw bod Trevor Davies, 20 oed a David Cooper 24 oed, y ddau o Gaerdydd wedi cael eu lladd wrth ddianc ar ôl dwyn o siop offer awyr agored.

Yn union wedi i’r ddau gael eu taro wrth yrru eu beiciau pedair olwyn ar hyd y rheilffordd yn oriau mân bore ddoe, fe ddechreuodd yr heddlu chwilio am ddynion eraill.

“Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dynion 21, 21 28 a 34 oed, pob un ohonyn nhw’n dod o ardal Caerdydd”, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae’r heddlu yn credu ei bod yn bosib mai’r dynion a ffodd o siop Go Outdoors oedd y dynion yn y ddamwain ar y rheilffordd.”

Dianc

Y gred yw bod pedwar dyn wedi defnyddio beiciau pedair olwyn i dorri i mewn i siop newydd Go Outdoors sydd â’i chefn at y brif lein reilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

Ar ôl dwyn gwerth £40,000 o’r cotiau gorau, fe geision nhw ddianc hyd y lein i ardal Rhymni Newydd – heb wybod fod trên gwag yn cael ei symud i Cheltenham i’w drwsio.

Gyda hwnnw’n teithio tua 70 milltir yr awr, fe gafodd y ddau feic cwad eu taro a dau o’r dynion eu lladd.

Yn ôl rheolwr y siop, roedd y lladron wedi gweithredu’n broffesiynol ac yn gwybod yn iawn beth yr oedden nhw’n ei ddwyn.

Newydd agor y mae’r siop ac roedd yno drefniadau diogelwch cadarn – mae’n ymddangos fod y pedwar wedi defnyddio’r beiciau i dorri’r drysau er mwyn mynd i mewn.

Mae’r heddlu yn gobeithio cael siarad gyda gyrrwr y trên cyn gynted â phosib.

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un a gwybodaeth ynglŷn â’r lladrad i gysylltu gyda CID Rhymni ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.