Llanast yr economi sydd wedi denu Christine Gwyther nôl i wleidydda.
Y cyn-Weinidog Amaeth fydd ymgeisydd Llafur yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ar gyfer etholiadau Prydeinig 2010.
“Mae fy nghefndir mewn datblygu economaidd, dyna beth wnes i gyda Chyngor Sir Penfro cyn bod yn Aelod Cynulliad,” meddai Christine Gwyther.
“Felly dw i’n hen gyfarwydd a delio gyda grantiau a chymorthdaliadau ac ati, sef y fath o gefnogaeth ariannol sydd ei angen ar y sefyllfa ddiwydiannol yn Nwyrain Caerfyrddin.
“Yr economi a swyddi, dyna’n syml y ddau reswm dros gynnig fy enw i’r etholaeth yma.”
Mi gollodd Christine Gwyther ei sedd fel Aelod Cynulliad Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn 2007, ac roedd hi’n enwog am ei bod yn gofalu am amaeth a hithau ddim yn bwyta cig.
Cewch ddarllen gweddill y stori yn Golwg, Rhagfyr 10