Roedd mis Tachwedd ym Mhrydain eleni ymysg y gwlypaf erioed, meddai arbenigwyr ar y tywydd.

Mae’r mis eisoes yn y pumed safle, ac fe allai ddringo ymhellach wrth i ffigyrau’r wythnos ddiwethaf gael eu hychwanegu yfory.

Mae record flaenorol Cumbria o 267mm o law ym mis Tachwedd eisoes ei chwalu gyda 316.7mm yn disgyn fis yma yn barod.

Dywedodd Swyddfa’r Met mai mis Tachwedd oedd o bosib y trydydd gwlypaf ers i’r cofnodion ddechrau yn 1914.

“Mae yna lot o law wedi syrthio ar draws y wlad dros y dyddiau diwethaf ac mae’n bosib mai hon yw’r Tachwedd trydydd gwlypaf erioed pan ydan ni’n eu cyfrifo nhw yfory,” meddai.

Cafodd y record 193.6 ei osod yn ystod llifogydd 1951. Yr ail Dachwedd gwlypaf erioed oedd 190.4mm yn 1940 a’r trydydd gwlypaf oedd 188mm yn 1929.

Roedd 176.2mm o law eisoes wedi disgyn erbyn Tachwedd 24 eleni.