Cyn-gariadon, ei berthynas â’i fam, ei gyfnod yn fyfyriwr cerdd a drama a’i amser yn Affrica. Dyna sy’n cael sylw yn llyfr diweddara’ cyflwynydd radio poblogaidd, sy’n wreiddiol o Gwmafan ger Port Talbot.
Oes, mae yna fwy i Chris Needs na chynnwys ei hunangofiant gwreiddiol, ‘Like It Is’. A dyna pam bod y cyflwynydd radio poblogaidd wedi mynd ati i lansio’i ail hunangofiant, ‘…And There’s More’.
“Pan orffennes i’r un cynta’, o’n i’n meddwl bod loads ‘da fi i ddweud eto,” meddai Chris Needs, sy’n cyflwyno ei raglen ei hun ar Radio Wales chwe noson yr wythnos.
“Wnes i ddechrau gyda’r sgrifennu, and then Bob’s your uncle,” meddai gan chwerthin.
“Mae sgrifennu yn dod yn naturiol – jyst fel bwyta bwyd. Wnes i sgrifennu ar y laptop bach lawr yn y garafán ym Mhorthcawl, ar bwys y môr, wrth yfed Spanish coffee!”
‘Lot o son am Mam’
Ar ôl ysgrifennu am gael ei gam-drin yn rhywiol yn Like It Is, y datguddiad mwyaf syfrdanol yn …And There’s More, yw’r ffordd y mae pobol eraill wedi ymateb i’w rywioldeb.
Mae pobol yn gweiddi arno ar y strydoedd, ac mae o wedi derbyn e-byst cas gyda rhai’n cwestiynu a ddylai gael fod yn dad bedydd, ac yn bygwth ei ladd, meddai.
Ond mae e am adael i bobol ddarllen yr hanes dros eu hunain, yn hytrach na datgelu gormod.
“Mae lot o sôn am Mam yn y llyfr – oedd hi’n gês, yn character, yn crazy woman,” meddai Chris Needs.
Mae yna sôn hefyd am fyd showbiz, a digon o luniau, “rhai ohona i gyda Bonnie Tyler, Max Boyce a Rhydian Roberts o’r X Factor.”
Ers i’r llyfr gael ei gyhoeddi, mae e wedi cael ymateb da, meddai.
“Mae popeth yn mynd yn dda. Fi’n gweud y gwir, dyna’r peth, ac mae yna lot o funnies ynddo fe.”
Chris Needs: And There’s More, y Lolfa, £9.95