Fe fydd dyn sydd wedi ei amau o droseddau rhyfel yn mynd o flaen llys ym Munich heddiw wedi ei gyhuddo o fod yn Natsi wnaeth gymryd rhan yn yr holocost.
John Demjanjuk, gweithiwr ceir wedi ymddeol o Ohio, yw’r dyn isaf yn hierarchaeth y Natsïaid i wynebu llys.
Pe bai’r erlyniad yn llwyddiannus fe allai arwain at gyhuddo nifer o bobol eraill nad oedd yn cael eu hystyried yn ddigon pwysig gynt o gyflawni erchyllterau yn enw’r gyfundrefn.
Mae’r dyn 89 oed wedi ei gyhuddo o fod yn gard yng ngwersyll Sobibor, lle y cafodd 27,900 o bobol eu llofruddio.
Mae John Demjanjuk yn dweud ei fod o wedi dioddef dan y Natsïaid, wedi ei anafu fel milwr yn brwydro o blaid y Sofietau ac yna wedi ei ddal mewn carchar rhyfel.
Ond mae’r erlyniad yn honni ei fod o wedi gwirfoddoli i wasanaethu gyda’r SS ac wedi ei yrru i Sobibor yng Ngwlad Pwyl.
Does dim un llygad dyst byw i achos John Demjanjuk ond mae’r erlyniad yn dadlau y byddai wedi chwarae rhan yn y lladdfa pe bai’n gard yn y gwersyll.