Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi dweud ei fod o’n awyddus i weld Gavin Henson yn ôl yng nghrys Cymru ar ôl y chwalfa 12 – 33 dydd Sadwrn.

Mae canolwr y Gweilch yn cymryd gwyliau hir o rygbi wrth iddo geisio gwella ei ffitrwydd yn dilyn ei anaf diweddaraf.

Mae Gavin Henson a’r Gweilch wedi gwadu droeon na fyddai’r dyn 27 oed yn dod yn ôl a dywedodd Warren Gatland y byddai’n “wych” petai’n chwarae eto.

Dyw Gavin Henson heb chwarae dros Gymru ers iddyn nhw golli yn erbyn Iwerddon yng ngem olaf y Chwe Gwlad eleni.

“Dw i heb siarad gyda Gavin ond fe fyddai’n wych ei weld o’n dod yn ôl i mewn,” meddai Warren Gatland.

“Nid yn unig am ei allu wrth ymosod ond hefyd ei allu wrth amddiffyn,” ychwanegodd ar ôl i Gymru ganiatáu pedair cais gan Awstralia.

“Rydw i’n meddwl am y chwaraewyr o ansawdd sydd ar eu ffordd yn ôl i dîm Cymru – Adam Jones, Lee Byrne, Mike Phillips, a Gavin Henson o bosib.”

Hapus i dderbyn beirniadaeth

Er gwaetha colli dydd Sadwrn mae Warren Gatland yn parhau i gredu y dylai Cymru fod yn chwarae timau o hemisffer y de yn aml. Bydd Cymru yn chwarae De Affrica a Seland Newydd, ddwywaith, yn ystod y chwe mis nesaf.

“Dw i ddim yn hoffi colli. Rydw i’n galed iawn arnaf i fy hun. Rydw i’n hapus i godi fy llaw a derbyn y feirniadaeth,” meddai.

“Rydym ni’n dal i geisio adeiladu cryfder mewn dyfnder, ond does dim diben rhedeg i ffwrdd a chuddio rhag chwarae’r timau gorau yn y byd.

“Yr unig ffordd i wella yw chwarae’r timau gorau.”

Bydd tîm Warren Gatland nol yn ei chanol hi ym mis Chwefror, wrth i Gymru herio Lloegr yn Twickenham yng ngem gyntaf y Chwe Gwlad.