Fe wnaeth Eisteddfod y Bala eleni elw mawr – ond mae’r Eisteddfod yng Nglyn Ebwy y flwyddyn nesaf yn cael trafferth i godi arian.

Dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, wrth gyngor yr ŵyl dros y penwythnos bod yr Eisteddfod ym Meirion a’r Cyffiniau wedi bod yn “llwyddiant mawr” a bod y pwyllgor apêl wedi codi £100,000 yn fwy na’u targed o bron i £200,000.

Ond yn ôl papur newydd y South Wales Argus heddiw dim ond £14,500 o’r targed o £300,000 mae Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd wedi llwyddo i’w godi hyd yn hyn.

Dywedodd cadeirydd pwyllgor gweithredol yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy, Richard Davies, wrth y papur bod yna ddiffyg “profiad” yn yr ardal wrth godi’r arian.

“Roedd Bala wedi cael yr Eisteddfod yn 1997 ac roedd ganddyn nhw bobol brofiadol yno – does gennym ni ddim y math yna o brofiad,” meddai.

“Mae gyda ni pedwar neu pum pwyllgor apêl tra bod gan y Bala ddwsinau.”

Yn ogystal â hynny datgelodd Elfed Roberts yn y cyfarfod gyda Chyngor yr Eisteddfod bod Ymddiriedolaeth Edwin Griffiths o’r Unol Daleithiau wedi gallu rhoi £40,000 yn unig eleni yn lle £90,000 fel y llynedd oherwydd y dirwasgiad.


Eisteddfodau’r dyfodol

Bydd seremoni cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2011 yn cael ei gynnal yn y dref ar Orffennaf 3 flwyddyn nesaf, meddai.

Mae’n debyg y bydd Eisteddfod 2012 yn cael ei gynnal ger Y Bont-faen, Eisteddfod 2013 yn Sir Ddinbych ac Eisteddfod 2014 yn Sir Gar.

Mae’r ŵyl yn costio tua £3m i’w gynnal, ac yn denu tua 160,000 o ymwelwyr.