Mae’r unig Gymro oedd ar ôl yn y X Factor, Lloyd Daniels, wedi cael ei fwrw mas o’r sioe ar ôl pleidlais y cyhoedd.

Roedd y llanc 16 oed o Dreharris ger Merthyr Tudful wedi dod dan lach y beirniad Louis Walsh dros yr wythnosau diwethaf – roedd hwnnw wedi ei alw’n ganwr “karaoke” cyn iddo ymadael neithiwr.

Ond dywedodd y beirniad arall Cheryl Cole fod yna ddyfodol disglair o’i flaen. “Dim ond 16 ydi o ac mae ganddo fo lwyth o amser i ddatblygu yn seren go iawn,” meddai.

Roedd Lloyd Daniels yn rasol wrth golli, cydnabyddiaeth efallai ei fod yno ar draul ambell ganwr gwell, gan gynnwys y Gymraes Lucie Jones a aeth allan o’i flaen.

“Rydw i wedi mwynhau pob munud,” meddai ar ddiwedd rhaglen oedd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan y sêr Rihanna ac Alicia Keys.

Ar y sioe nos Sadwrn, roedd Lloyd Daniels wedi perfformio caneuon gan Take That ac Elton John.

Fe fydd y rownd gyn derfynol dydd Sadwrn nesaf.