Mae cyn wrthryfelwr guerilla a ddaeth yn enwog drwy herwgipio a bomio wedi cael ei ethol yn Arlywydd Uruguay.

Cafodd Jose Mujica fwy nag 50% o’r pleidleisiau yn ail gymal yr etholiad, gan ennill pum mlynedd arall mewn pŵer i glymblaid adain chwith y Frente Amplio.

Derbyniodd y cyn arlywydd Luis Lacalle o’r blaid adain dde Partido Nacional ei fod wedi colli’r ras, gyda thua 45% o’r pleidleisiau.

Roedd Jose Mujica wedi addo y bydd yn parhau gyda pholisïau ei ragflaenydd poblogaidd Tabaré Vázquez ac uno De America ar ôl dechrau ei waith ar Fawrth 1.

Jose Mujica oedd un o sylfaenwyr yr herwfilwyr Tupamaro a achosodd anhrefn yn Uruguay yn yr 1960au. Dywedodd bod cyfnod yn cael ei arteithio yn y carchar wedi newid ei feddwl ynglŷn â cheisio achosi chwyldro drwy drais.

“Mae yna rai sy’n credu bod pŵer yn dod o uwchben, a dydyn nhw ddim yn sylwi ei fod yng nghalonnau’r werin,” meddai mewn araith ar ôl ennill. “Diolch! Fe gymerodd fy mywyd cyfan i fi ddysgu hynny.”