Mae prif gyfnewidfa stoc Dubai wedi syrthio bron i 6% heddiw, ar y diwrnod cyntaf o fasnachu ers i’r wlad gyfaddef ei bod yn cael trafferth i dalu ei dyledion anferth.

Roedd marchnad ariannol Dubai wedi bod ar gau ers yr wythnos diwethaf oherwydd gwyliau Islamaidd pwysig.

Disgynnodd cyfranddaliadau yn Dubai World o 15% wrth i’r farchnad agor – dyna’r cwmni sydd â’r rhan fwyaf o’r ddyled.

Ddydd Mercher, cyhoeddodd awdurdodau Dubai bod Dubai World – sy’n eiddo i’r llywodraeth – wedi gofyn am chwe mis o ras cyn talu dyled o bron i £36 biliwn.

Mae yna bryderon y gallai prifddinas economaidd y Dwyrain Canol fod yn un o ddioddefwyr mwyaf y dirwasgiad.