Mae llywodraeth Iran wedi cymeradwyo cynllun i ddatblygu 10 o safleoedd newydd ar gyfer cyfoethogi wraniwm yn y wlad.
Mae’r cynnydd dramatig yma, sy’n herio galwadau’r Cenhedloedd Unedig ar i’r wlad roi’r gorau i’w rhaglen niwcliar, yn achos pryder difrifol yn ôl llywodraeth Prydain.
Daw’r penderfyniad ddeuddydd yn unig ar ôl i Iran gael ei cheryddu gan asiantaeth atomig y Cenhedloedd Unedig oherwydd ei gweithgareddau niwclear. Cafodd cynnig yn condemnio’r wlad ei basio o 25 pleidlais i 3.
Mewn ymateb herfeiddiol i’r bleidlais honno, mae’r Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad wedi gorchymyn adeiladu pum safle newydd a chael hyd i bum safle arall.
Wrth fynegi pryder am y datblygiad, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor y bydd angen i Brydain benderfynu ar ei hymateb mewn partneriaeth â gwledydd eraill sy’n rhan o asiantaeth atomig y Cenhedloedd Unedig.
Mae llywodraeth Iran hyd ymae wedi gwrthod derbyn cynnig rhyngwladol i ddarparu tanwydd niwclear ar gyfer cynhyrchu ynni sifil yn gyfnewid am roi’r gorau i’w rhaglenni cyfoethogi wraniwm, sydd wedi arwain at amheuon fod Mahmoud Ahmadinejad yn ceisio datblygu arfau niwclear.
Llun: Arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad